Mae tirwedd arfordirol gynhanesyddol penrhyn Tyddewi yn Sir Benfro, Cymru, yn cynnwys o leiaf ddeuddeg o geyrydd pentir arfordirol gan gynnwys Gwersyll Caerfai sy’n rhan o’n prosiect ni.
Mae safle rhestredig Caer Bentir Gwersyll Caerfai / Penpleidiau (PE294) ar benrhyn arfordirol naturiol mawr iawn sy’n amlwg yn weledol ac wedi’i leoli i’r de-ddwyrain o Dyddewi.
Mae’r safle wedi’i leoli ar bentir arfordirol ac mae’n cael ei amddiffyn gan glogwyni ar yr ochrau gorllewinol, deheuol a dwyreiniol. Mae’r safle’n nodedig gan fod erydiad trwm wedi creu ‘hafn’ a llain o dir is-betryal wedi’i gysylltu ar ben eithaf y pentir naturiol hir. Yn rhedeg yn gyfochrog â’r hafn ar ei ochr ogleddol mae cyfres o bedwar clawdd a ffos a gafodd eu hadeiladu a’u haddasu drwy gydol y cyfnod cynhanesyddol. Diddorol yw’r ffordd mae’n ymddangos fel pe bai’r amddiffynfeydd adeiledig yn parchu lle mae’r erydiad wedi digwydd.
Disgrifir yr heneb fel:
“cilgant o dair i bedair llinell o gloddiau a ffosydd, tua 100m o hyd, sydd â’r hyn sy’n ymddangos fel hen fwlch mynediad, tua 30m ar draws, yn y dwyrain, wedi’i rwystro gan ddau glawdd llai. Mae’r set gyfan ar draws y gogledd, tua’r tir yn agosáu at wddf o dir 45m o led sy’n agor ar bentir girt clogwyn tua 100m dwyrain-gorllewin wrth 50m; adroddwyd am leoliadau ar gyfer strwythurau crwn ond heb eu cadarnhau y tu mewn a dywedir bod harbwr cychod naturiol bychan, da i’r de”.
Mae’r rhagfuriau i’r gogledd o’r gaer wedi’u gorchuddio gan lystyfiant ond maent i’w gweld yn drawiadol o hyd, gan ddangos llinellau clir o gloddiau a ffosydd, gyda’r clawdd mewnol yn sefyll 3m uwch ben y tu mewn a 3.5 dros y ffos ar y tu allan. Mae’r fynedfa i’r gaer i’w gweld rhwng y pen dwyreiniol, y cloddiau a’r ffosydd, a llethr arfordirol serth sy’n rhedeg i lawr i ben clogwyni môr fertigol. Mae’r tu mewn sydd wedi’i orchuddio gan laswellt yn goleddfu’n raddol i lawr o’r gogledd i’r de ac mae’n betryal tua 100m N-S a 120m E-W. Ar ochrau’r de orllewin, y de a’r dwyrain, mae’r tu mewn yn goleddfu’n raddol i lawr cyn dod i ben mewn clogwyni môr.
Mae’r gaer ei hun yn anarferol. Mae’n anghyffredin i gaer bentir arfordirol fod â phedair llinell o gloddiau a ffosydd, ac fel rheol mae’r amddiffynfeydd wedi’u cynllunio i’w gweld o’r safle tua’r tir. Yng Nghaerfai, mae’r dirwedd wastad yn golygu mai dim ond y clawdd allanol sydd i’w weld, gyda’r cloddiau eraill wedi’u cuddio y tu ôl. Dim ond wrth ddynesu at y fynedfa y gellir gweld a gwerthfawrogi’r pedair llinell o glawdd a ffos, yn enwedig i’r rhai sy’n dod o’r môr.
Nid ydym yn gwybod llawer mwy am Wersyll Caerfai ei hun, heblaw am yr effaith ddinistriol y mae erydiad arfordirol yn ei chael ar yr olion archaeolegol ar hyd arfordir Cymru. Mae erydiad arfordirol wedi cael effaith amlwg ar archaeoleg yn y rhanbarth hwn, yn enwedig yng Nghaerfai lle collwyd cryn dipyn o’r safle i’r môr.
Bydd ein hymchwil archaeolegol a phaleoamgylcheddol yn yr ardal hon nid yn unig yn helpu i nodweddu gweddillion archaeolegol y gaer, ond hefyd bydd yn helpu i lunio casgliadau ehangach am batrymau rhanbarthol amrywioldeb hinsoddol yn y gorffennol ynghyd â nodi’r prif brosesau sy’n achosi’r erydiad.