Os ydych chi wedi bod yn hoff iawn o hanes erioed neu’n chwilio am rywbeth newydd i’w wneud, mae gan ‘Waith Cloddio Caerfai’ yng Nghaer Bentir Caerfai /Penpleidiau rywbeth i bawb
Mae’r cloddio am bythefnos ar agor i’r cyhoedd, a gallwch ymweld wyneb yn wyneb (yn amodol ar reolau diogelwch COVID-19), gwylio ar-lein, dilyn ein blog a chael yr wybodaeth ddiweddaraf am ein darganfyddiadau a’n cynnydd cyffrous, a hyd yn oed gofrestru i ymuno â’r tîm archaeolegol.
Gyda’n gilydd, ein nod yw darganfod mwy am y gaer bentir nad oes neb wedi ymchwilio iddi erioed o’r blaen a’r ardal o’i chwmpas, gan gynnwys y rhagfuriau enfawr wrth y fynedfa, yn ogystal â dysgu sut mae erydu’r arfordir a’r tir yn effeithio ar y safle cenedlaethol bwysig hwn.
Mae yna ddigon i weld ac i wneud, nai llai yma, neu ar-lein. Fe allwch ddod yma i’r safle bob diwrnod (heblaw dydd Llun) am 11.30 neu 3 o’r gloch. Does dim angen cofrestri. Dewch a gofyn am Kim (hello@digventures.com) ac fe gewch daith o’r safle.
Mae’r newyddion diweddaraf ynglŷn â’r safle a’r darganfyddiadau yn cael eu lanlwytho i’r Dig Records (linc yn y menu ar ben y dudalen), fel bod pawb yn cael gweld beth sydd yma.
Gwyliwch am y cyhoeddiadau – fe fyddwn yn cynnal taith byw o’r safle (Saesneg/Cymraeg) i‘r rhai sydd dim yn gallu teithio yma.