Mae Caer Bentir Caerfai yn Heneb Gofrestredig ac yn un o dirnodau cynhanesyddol mwyaf cyfarwydd penrhyn Tyddewi, ond ychydig iawn rydym yn ei wybod am ei hanes a’i hadeiladwaith.

Gan weithio ochr yn ochr â CHERISH, bydd gwirfoddolwyr o bob rhan o Sir Benfro yn cael eu harwain gan dîm o DigVentures i gloddio, nodweddu a dyddio agweddau ar y gaer a’i chyffiniau.

Mae’r heneb a’r isthmws y mae wedi’i lleoli arno mewn perygl o erydiad yr arfordir a’r tir yn ogystal â thyfiant llystyfiant niweidiol. Bydd yr holl wybodaeth a geir o’r gwaith cloddio’n cael ei fwydo i ddull gweithredol o reoli cadwraeth sy’n cael ei wneud gan Cadw, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (APCAP), yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol (YG) a Phrosiect CHERISH (Partneriaid Cymru: Y Comisiwn Brenhinol a Phrifysgol Aberystwyth).

Mae’r gwaith cloddio am bythefnos (a gynhelir rhwng 2il ac 16eg Medi) ar agor i bawb ymuno ag ef hefyd. Gall oedolion a phlant ymuno â’r tîm archaeolegol, gan ddysgu sut i ymchwilio i ddarn o hanes cenedlaethol bwysig tra hefyd yn helpu i ddatgelu manylion newydd am y Gaer Bentir yng nghalon Sir Benfro ac ar arfordir cynhanesyddol Tyddewi.

Darllen mwy am Bartneriaid Prosiect CHERISH yma:

https://projects.digventures.com/caerfai-promontory-fort/cy/cefndir/prosiect-cherish/

ac am Brosiect CHERISH yma:

http://cherishproject.eu/cy/