Mae CHERISH yn brosiect chwe blynedd yn Iwerddon a Chymru sy’n dod â phedwar partner at ei gilydd ar draws dwy wlad: Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru; y Rhaglen Ddarganfod, Iwerddon; Prifysgol Aberystwyth: Yr Adran Ddaearyddiaeth a Gwyddorau Daear; ac Arolwg Daearegol Iwerddon. Dechreuodd y prosiect ym mis Ionawr 2017 a bydd yn weithredol tan fis Rhagfyr 2022. Bydd yn elwa o €4.9 miliwn o gyllid yr UE drwy Raglen Cydweithrediad Iwerddon Cymru 2014-2020.
Mae CHERISH yn brosiect gwirioneddol drawsddisgyblaethol gyda’r nod o godi ymwybyddiaeth a gwella dealltwriaeth o effeithiau newid yn yr hinsawdd, stormydd a thywydd eithafol yn y gorffennol, y presennol a’r dyfodol agos ar dreftadaeth ddiwylliannol gyfoethog ein môr a’n harfordir. Mae CHERISH yn cysylltu tir a môr ac yn defnyddio amrywiaeth o dechnegau a dulliau i astudio rhai o’r lleoliadau arfordirol mwyaf eiconig yn Iwerddon a Chymru. Mae’r rhain yn amrywio o sganio laser daearol ac o’r awyr i arolygon geoffisegol a mapio gwely’r môr, samplu paleoamgylcheddol, cloddio a monitro llongddrylliadau.
Prif amcan CHERISH yw cynyddu gallu a’r wybodaeth am addasu i newid yn yr hinsawdd ar gyfer cymunedau Arfordirol a Môr Iwerddon.
Cyflawnir hyn drwy’r naw Fenter ganlynol gan CHERISH (CI):
Bydd y cloddio yng Nghaer Bentir Caerfai yn helpu i gyflawni CI7 – Cloddio Asedau Treftadaeth sydd mewn Perygl.
Cliciwch drwodd i wefan prosiect CHERISH i gael gwybod mwy: